top of page

Gweithgaredd 5: Yr Effaith Gyfreithiol: Sut Gall Cyfreithiau Erlid neu Ddiogelu

​

Grŵp oedran

Blynyddoedd 7-11 (12-16 oed)

Camau Cynnydd 4 a 5

​

Rhybudd: Mae'r gweithgaredd hon yn cynnwys tystiolaeth fideo sy’n cyfeirio at gam-drin treisgar mewn gwersyll crynhoi cyn y rhyfel.


Yn y gweithgaredd hon, bydd myfyrwyr yn dysgu am erledigaeth yr Iddewon gan y Natsïaid yn yr Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn myfyrio ar y cysyniad o hawliau dynol cyffredinol.


Bydd myfyrwyr yn dysgu am gronoleg erledigaeth Iddewon yr Almaen gan y Natsïaid yn ystod y cyfnod 1933-1939. Mae'r gweithgaredd yn integreiddio tystiolaeth fideo Irene Kirstein Watts, ffoadur Kindertransport, ag adnoddau sy'n ymwneud â digwyddiadau hanesyddol allweddol a chyfreithiau Natsïaidd yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd. Nod hyn yw darparu sylfaen i archwilio sut y gall rhagfarn a throseddau hawliau dynol gyfrannu at drais, erchylltra torfol, a hil-laddiad.


Ar yr un pryd, mae’r gweithgaredd yn annog myfyrwyr i ystyried yr effaith ddynol a gafodd yr erledigaeth hon ar deuluoedd unigol, gan bwysleisio dynoldeb dioddefwyr yr Holocost.


Yn olaf, bydd myfyrwyr yn archwilio'r gwerthoedd sy'n sail i hawliau dynol a chreu'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ym 1948, gan ganiatáu i fyfyrwyr fyfyrio ar bwysigrwydd hawliau o'r fath a sut y gellir eu hamddiffyn.


Gellir rhannu’r gweithgaredd yn hawdd yn ddwy sesiwn lle bo angen – gellir cyflawni Tasgau 1-3 yn y sesiwn gyntaf a gellir cwblhau Tasgau 4 a 5 mewn ail sesiwn.

bottom of page