top of page

Côf a lithr, llythyrau a geidw: creating Holocaust resources for Welsh schools

 

A partnership project between Centre for the Movement of People (CMOP), Aberystwyth University and Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC).

​

The project is running from October 2021 to September 2022.

 

It is kindly supported by the Association of Jewish Refugees, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England and Garfield Weston Foundation.

​

​

Aim of the project:

 

To develop at least twenty bilingual (English/Welsh), locally relevant Holocaust educational resources for Key Stages 3 and 4 for teachers and students in Wales.

 

Objectives:

 

1. To create downloadable educational resources using audio-visual testimonies from the archives of AJR’s Refugee Voices, Imperial War Museum, and JHASW/CHIDC.

 

Each educational resource will contain a lesson plan for teachers and an activity sheet for learners. The activities will encourage independent and collaborative enquiry and will link directly to identified themes in the ‘descriptions of learning’ in the ‘progression steps’ of the Curriculum for Wales, e.g., human rights, injustice and inequality, and reliability and validity of evidence.

 

The material will be age-appropriate (language, topics) and presented in a variety of ways, combining text, images, audio and video clips, and tables to ensure the resources are of interest to the students.

 

2. To publish the educational resources on Hwb, the Welsh Government’s digital platform for teaching and learning. It is the only source of approved bilingual digital teaching material in Wales.

 

3. To test the resources in three pilot schools.

 

The project will address the following needs:

 

1. Need for bilingual educational material on Holocaust and refugee history in Wales.

 

According to Welsh Government data for 2019/2020, 40,026 (23.37%) secondary students are attending schools that are either Welsh-medium, bilingual, dual-medium or English with significant Welsh provision.[1]

 

2. Need for localised Holocaust educational content in Wales as per the Curriculum for Wales 2022 requirements.

 

3. Need for sustainable digital teaching materials.

 

We aim to support teachers by creating high-quality digital material that is freely available on a widely known and enduring platform that can be accessed outside the school.

​

4. Need to counter Holocaust distortion and combat antisemitism.

 

In 2020, Community Security Trust (CST) recorded 1,668 antisemitic incidents across the UK; of these fourteen were reported in Wales.[2]

 

According to Stephens-Davidowitz’s Hidden Hate report, Wales had the highest proportion of antisemitic Google searches in the UK for the period 2004-2018.[3] News of antisemitism and abusive behaviour in Wales regularly appear in the UK and Welsh media, from vandals breaking into the Cardiff Reform Synagogue in 1992 and setting a Torah wimpel on fire to Swansea Synagogue being desecrated in 2002, to a Jewish cemetery in Cardiff being vandalised in 2017, to a van with large Nazi flag draped over the rear driving through Carmarthenshire in September 2020.

 

Based on a survey of 2006 UK adults, commissioned and published by the Holocaust Memorial Day Trust in January 2019, in Wales, 10% of the respondents think the scale of the Holocaust is exaggerated.[4] At the same time, 87% agree that is important to know more about the Holocaust in today’s world; 80% believe more needs to be done to educate people about what happened during the Holocaust; 73% agree more should be taught in school about the Holocaust; 91% say we can all learn lessons for today from what happened in the Holocaust.

 

 

About CMOP.

 

The Centre for the Movement of People (CMOP) encourages research, dissemination and engagement on different forms of human mobility from fleeing persecution to travelling for leisure using a wide range of methodological and disciplinary approaches. It furthers collaborations within the faculty, Aberystwyth University, nationally and internationally. It aims to research the past, shape the present and improve the future by engaging with the public inside and outside academia.

 

Under the directorship of Dr Andrea Hammel, the centre focuses on Refugee Studies, especially the study of Refugees from National Socialism.

[1] StatsWales, Pupils by local authority, region and Welsh medium type <https://statswales.gov.wales/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Welsh-Language/pupils-by-localauthorityregion-welshmediumtype> [accessed 8 December 2020].

​

[2] Community Security Trust, Antisemitic Incidents: Report 2020 (2021) <https://cst.org.uk/data/file/7/2/Incidents%20Report%202020.1615559608.pdf> [accessed 29 September 2021].

​

[3] Seth Stephens-Davidowitz, Hidden Hate: what Google searches tell us about antisemitism (2019) <https://antisemitism.org.uk/wp-content/uploads/2020/06/APT-Google-Report-2019.1547210385.pdf> [accessed 29 September 2021].

​

[4] Holocaust Memorial Day Trust, Holocaust Memorial Day 2019 research (2019) <https://www.hmd.org.uk/news/we-release-research-to-mark-holocaust-memorial-day-2019/> [accessed 29 September 2021].

Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau Holocost ar gyfer ysgolion Cymru

​

Prosiect partneriaeth rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC).

​

Mae'r prosiect yn rhedeg rhwng mis Hydref 2021 a mis Medi 2022.

​

Fe'i cefnogir yn garedig gan Association of Jewish Refugees, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

​

Nod y prosiect:

​

Datblygu o leiaf ugain o adnoddau addysgol dwyieithog (Saesneg / Cymraeg), sy’n berthnasol yn lleol i’r Holocost ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4 ar gyfer athrawon a myfyrwyr yng Nghymru.

​

Amcanion:

​

1. Creu adnoddau addysgol y gellir eu lawrlwytho gan ddefnyddio tystiolaethau clyweledol o archifau AJR’s Refugee Voices, Imperial War Museum, a CHIDC.

​

Bydd pob adnodd addysgol yn cynnwys cynllun gwers i athrawon a thaflen weithgareddau ar gyfer dysgwyr. Bydd y gweithgareddau'n annog ymchwilio annibynnol a chydweithredol ac yn cysylltu'n uniongyrchol â themâu a nodwyd yn y 'disgrifiadau dysgu' yng 'nghamau cynnydd’ Cwricwlwm Cymru, e.e. hawliau dynol, anghyfiawnder ac anghydraddoldeb, a dibynadwyedd a dilysrwydd tystiolaeth.

​

Bydd y deunydd yn addas i'w hoedran (iaith, pynciau) ac yn cael ei gyflwyno mewn amryw o ffyrdd, gan gyfuno testun, delweddau, clipiau sain a fideo, a thablau i sicrhau bod yr adnoddau o ddiddordeb i'r myfyrwyr.

​

2. Cyhoeddi'r adnoddau addysgol ar Hwb, platfform digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu a dysgu. Dyma'r unig ffynhonnell o ddeunydd addysgu digidol dwyieithog sydd wedi’i gymeradwyo yng Nghymru.

​

3. Profi'r adnoddau mewn tair ysgol beilot.

​

Bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r anghenion canlynol:

​

1. Yr angen am ddeunydd addysgol dwyieithog am yr Holocost a hanes ffoaduriaid yng Nghymru.

​

Yn ôl data Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/2020, mae 40,026 (23.37%) o fyfyrwyr uwchradd yn mynychu ysgolion sydd naill ai'n rai cyfrwng Cymraeg, yn ddwyieithog, yn ddeuol-gyfrwng neu'n Saesneg gyda darpariaeth Gymraeg sylweddol. [1]

​

2. Yr angen am gynnwys addysgol wedi’i leoleiddio am yr Holocost yng Nghymru yn unol â gofynion Cwricwlwm Cymru 2022.

​

3. Yr angen am ddeunyddiau addysgu digidol cynaliadwy.

​

Ein nod yw cefnogi athrawon trwy greu deunydd digidol o ansawdd uchel sydd ar gael am ddim ar blatfform adnabyddus a pharhaus a allai gael ei gyrchu o du allan i'r ysgol.

​

4. Yr angen i wrthsefyll camliwiad o’r Holocost a brwydro yn erbyn gwrth-semitiaeth.

​

Yn 2020, bu i’r Community Security Trust (CST) gofnodi 1,668 o ddigwyddiadau gwrth-semitig ledled y DU; gyda phedwar ar ddeg o'r rhain yn adroddiadau a wnaed yng Nghymru. [2]

​

Yn ôl adroddiad ‘Hidden Hate’ gan Stephens-Davidowitz, Cymru oedd â'r gyfran uchaf o chwiliadau gwrth-semitig ar Google yn y DU yn ystod cyfnod 2004-2018. [3] Mae newyddion am wrth-semitiaeth ac ymddygiad ymosodol yng Nghymru yn ymddangos yn rheolaidd yng nghyfryngau'r DU a Chymru, o fandaliaid yn torri i mewn i Synagog Diwygio Caerdydd ym 1992 ac yn gosod wimpl Torah ar dân, i Synagog Abertawe yn cael ei halogi yn 2002, i fynwent Iddewig yng Nghaerdydd yn cael ei fandaleiddio yn 2017, i faner fawr Natsïaidd yn gorchuddio cefn fan oedd yn gyrru trwy Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2020.

​

Yn seiliedig ar arolwg o oedolion y DU yn 2006, a gomisiynwyd ac a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ym mis Ionawr 2019, yng Nghymru, mae 10% o'r ymatebwyr o'r farn bod graddfa effaith yr Holocost yn cael ei orliwio. [4] Ar yr un pryd, mae 87% yn cytuno ei bod hi’n bwysig gwybod mwy am yr Holocost yn y byd sydd ohoni; mae 80% yn credu bod angen gwneud mwy i addysgu pobl am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Holocost; mae 73% yn cytuno y dylid dysgu mwy yn yr ysgol am yr Holocost; dywedodd 91% y gallwn ni i gyd ddysgu gwersi am ein byd heddiw o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Holocost.

​

YnglÅ·n â Chanolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP).

​

Mae’r Ganolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP) yn annog ymchwil, ymledu ac ymgysylltu ar wahanol fathau o symudedd dynol o ffoi rhag erledigaeth i deithio am resymau hamdden gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau methodolegol a disgyblu. Mae'n hybu cydweithrediadau o fewn y gyfadran, Prifysgol Aberystwyth, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ei nod yw ymchwilio i'r gorffennol, llunio'r presennol a gwella'r dyfodol trwy ymgysylltu â'r cyhoedd y tu mewn a'r tu allan i'r byd academaidd.

​

O dan gyfarwyddiaeth Dr Andrea Hammel, mae'r ganolfan yn canolbwyntio ar Astudiaethau Ffoaduriaid, yn enwedig astudio Ffoaduriaid o Sosialaeth Genedlaethol.

[1] StatsWales, Pupils by local authority, region and Welsh medium type <https://statswales.gov.wales/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Welsh-Language/pupils-by-localauthorityregion-welshmediumtype> [accessed 8 December 2020].

​

[2] Community Security Trust, Antisemitic Incidents: Report 2020 (2021) <https://cst.org.uk/data/file/7/2/Incidents%20Report%202020.1615559608.pdf> [accessed 29 September 2021].

​

[3] Seth Stephens-Davidowitz, Hidden Hate: what Google searches tell us about antisemitism (2019) <https://antisemitism.org.uk/wp-content/uploads/2020/06/APT-Google-Report-2019.1547210385.pdf> [accessed 29 September 2021].

​

[4] Holocaust Memorial Day Trust, Holocaust Memorial Day 2019 research (2019) <https://www.hmd.org.uk/news/we-release-research-to-mark-holocaust-memorial-day-2019/> [accessed 29 September 2021].

gfw.png
Jewish-Historical-Society-of-England-Logo-Design.jpg
aberystwyth-logo.png
AJRMasterLogoPlain.jpg
Picture2.png
bottom of page