top of page

Gweithgaredd 10: Gwrthsafiad a Chofio

 

Grŵp oedran:

Blynyddoedd 7-11 (12-16 oed)

Camau Cynnydd 4 a 5

​

Gall athrawon hefyd ystyried addasu’r deunydd ar gyfer Blwyddyn 4-6 (9-11 oed)

Cam Cynnydd 3

 

Mae’r wers hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddyfnhau eu gwybodaeth o'r Holocost trwy archwilio gwahanol weithredoedd o wrthsafiad Iddewig. Bydd myfyrwyr yn dysgu bod gwrthsafiad yn ystod yr Holocost wedi bodoli ar sawl ffurf, gan gynnwys gwrthsafiad corfforol ac ysbrydol. Trwy archwilio gwahanol adnoddau hanesyddol a straeon personol, bydd myfyrwyr yn cael golwg fwy cynnil ar wrthsafiad yn ystod yr Holocost ac yn ystyried y posibiliadau i unigolion sefyll i fyny i amddiffyn hawliau dynol sylfaenol ac urddas dynol. Nod hyn, yn ei dro, yw annog myfyrwyr i fyfyrio ar eu rhwymedigaethau eu hunain yn y gymdeithas gyfoes.


Bydd myfyrwyr hefyd yn ystyried sut y gall cymdeithasau gofio ac anrhydeddu’r unigolion, y teuluoedd a’r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt gan ddinistr yr Holocost mewn modd ystyrlon. Mae'r gweithgaredd yn cynnwys dadansoddiad o gofeb yng Nghymru ac yn annog myfyrwyr i ddylunio eu cofeb Holocost neu weithred arall o gofio, gan ganolbwyntio ar y cysylltiadau hanesyddol â phobl a lleoedd Cymru.

​

Mae'r gweithgaredd yn ffurfio casgliad naturiol i'r gyfres o Weithgareddau Holocost JHASW/CHIDC. Yn benodol, argymhellir bod y Gweithgaredd hwn yn cael ei gwblhau ar ôl i fyfyrwyr astudio Gweithgareddau 5-9* (sy’n ymdrin â hanes esblygiad yr Holocost, rôl Prydain, colled etifeddol a materion yn ymwneud â chyfrifoldeb). Mae'r Gweithgareddau cynharach hyn yn rhoi cyd-destun hanfodol ac yn cyfuno â Gweithgaredd hwn i bwysleisio cymhlethdodau'r dewisiadau moesol a wynebai pobl gyffredin yn ystod yr Holocost.

​

Gall athrawon hefyd ystyried defnyddio peth o’r deunydd yn y wers hon ar gyfer addysgu grŵp oedran iau, fel estyniad i’w hastudiaeth o Weithgaredd 4, yn ymwneud â Bywyd Iddewig yn Ewrop Cyn y Rhyfel.

 

Gellir rhannu'r wers yn hawdd yn ddwy sesiwn lle bo angen – gellir cwblhau Tasgau 1-3 yn y sesiwn gyntaf a gellir cwblhau Tasgau 4 a 5 mewn ail sesiwn.

bottom of page