top of page

ADNODDAU HOLOCOST I ATHRAWON A MYFYRWYR YNG NGHYMRU

Yn y gweithgaredd hwn, bydd myfyrwyr yn ystyried yr ymadrodd ‘ffoaduriaid’, beth maen nhw'n meddwl mae’n ei olygu a pham maen nhw'n meddwl ei fod yn golygu beth mae'n ei wneud. Bydd myfyrwyr wedyn yn dysgu am blant Iddewig a ffodd yn ystod y 1930au. Byddant yn casglu gwybodaeth hanesyddol am y Kindertransport ac yn gwrando ar brofiad bywyd plentyn oedd yn ffoadur.

​

Darllen mwy.

A1_cover_gwyrch.castle.png

Gweithgaredd 1: Kindertransport a’r Plant a Ffodd i Gymru: Rhan 1 - Cefndir

Yn y gweithgaredd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am brofiad y plant wnaeth ffoi yn ystod y 1930au a’u taith i’r DU. Byddant yn datblygu dealltwriaeth o'r effaith emosiynol ar deuluoedd ac yn dysgu am yr ymateb byd-eang i'r Kindertransport.

​

Darllen mwy.

The Journey_Wix.png

Gweithgaredd 2: Kindertransport a’r Plant a Ffodd i Gymru: Rhan 2 – Y Daith

Yn y gweithgaredd hwn, bydd myfyrwyr yn cael cyflwyniad i sut beth oedd hunaniaeth, diwylliant a bywyd cymunedol Iddewig yn Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd, gan ganiatáu iddynt ddeall unigoliaeth y bywydau Iddewig yr effeithiwyd arnynt gan yr Holocost.

​

Darllen mwy.

Identity_Wix.png

Yn y gweithgaredd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am profiad y plant a wnaeth ffoi yn ystod y 1930au a’u dyfodiad i Gymru. Byddant yn datblygu dealltwriaeth o'r heriau a wynebodd y plant ac ymateb y cymunedau lleol. Byddant hefyd yn dysgu am y profiadau cyffredin a gafodd y plant, yn ogystal â'r gwahaniaethau. 

​

Darllen mwy.

Arrival In Wales_Wix.jpg

Gweithgaredd 3: Kindertransport a’r Plant a Ffodd i Gymru: Rhan 3 - Cyrraedd Cymru

Gweithgaredd 4 : Bywyd Iddewig yn Ewrop Cyn y Rhyfel: Hunaniaeth, Amrywiaeth a Chyffredinolrwydd

Yn y gweithgaredd hon, bydd myfyrwyr yn dysgu am erledigaeth yr Iddewon gan y Natsïaid yn yr Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn myfyrio ar y cysyniad o hawliau dynol cyffredinol.

​

Darllen mwy.

Legal Effect_Wix.png

Yn y gweithgaredd hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut y defnyddiodd y Natsïaid sefydliadau ieuenctid a phropaganda i feithrin cefnogaeth miliynau o Almaenwyr i’w nodau gwleidyddol ac i lunio barn ac ymddygiad y cyhoedd cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

​

Darllen mwy.

Prejudice_Wix.png

Gweithgaredd 6: Rhagfarn a Phropaganda

Gweithgaredd 5: Yr Effaith Gyfreithiol: Sut Gall Cyfreithiau Erlid neu Ddiogelu

Mae’r gweithgaredd hon yn cyflwyno myfyrwyr i brofiad y rhai a oroesodd yr Holocost a’r golled etifeddol a brofwyd ganddynt yn sgil erledigaeth y Natsïaid a’r Ail Ryfel Byd. Bydd myfyrwyr yn gwylio tystiolaeth fideo Irene Kirstein Watts, ffoadur Kindertransport, i fyfyrio ar yr heriau a wynebodd ac i ehangu eu dealltwriaeth o ystyr y term 'goroeswr'.

​

Darllen mwy.

Loss 1_Wix.png

Gweithgaredd 7: Prydain a Cholled Etifeddol: Rhan 1

Mae'r gweithgaredd hon yn cyflwyno myfyrwyr i brofiad goroeswyr yr Holocost a'r golled etifeddol a ddioddefwyd ganddynt yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Bydd myfyrwyr yn ystyried gwerth tystiolaeth goroeswyr a'r rôl y mae'n ei chwarae yn ein dealltwriaeth o hanes yr Holocost.

​

Darllen mwy.

Loss 2_Wix.png

Gweithgaredd 8: Prydain a Cholled Etifeddol: Rhan 2

Mae’r wers hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddyfnhau eu gwybodaeth o'r Holocost trwy archwilio gwahanol weithredoedd o wrthsafiad Iddewig. Bydd myfyrwyr hefyd yn ystyried sut y gall cymdeithasau gofio ac anrhydeddu’r unigolion, y teuluoedd a’r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt gan ddinistr yr Holocost mewn modd ystyrlon.

​

Darllen mwy.

Gordon_Wix.PNG

Gweithgaredd 10: Gwrthsafiad a Chofio

Mae’r gweithgaredd hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ystyried mater cymhleth cyfrifoldeb yng nghyd-destun meddiannaeth y Natsïaid o Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd myfyrwyr yn archwilio tystiolaeth fideo Ellen Kerry Davis, ffoadur Kindertransport, yn ogystal â mapiau ac adnoddau eraill yn ymwneud â digwyddiadau hanesyddol allweddol (yn arbennig, saethu torfol yr Einsatzgruppen) ac yn ystyried sut y gwnaeth gweithredoedd pobl gyffredin lywio digwyddiadau'r Holocost.

​

Darllen mwy.

A9_ushmm_einsatzgruppen.map_edited_Wix.png

Gweithgaredd 9: Ailfeddwl Cyfrifoldeb

bottom of page