top of page

Gweithgaredd 7: Prydain a Cholled Etifeddol - Rhan 1

​

Grŵp oedran

Blynyddoedd 7-11 (12-16 oed)

Camau Cynnydd 4 a 5

​

Mae’r gweithgaredd hon yn cyflwyno myfyrwyr i brofiad y rhai a oroesodd yr Holocost a’r golled etifeddol a brofwyd ganddynt yn sgil erledigaeth y Natsïaid a’r Ail Ryfel Byd. Bydd myfyrwyr yn gwylio tystiolaeth fideo Irene Kirstein Watts, ffoadur Kindertransport, i fyfyrio ar yr heriau a wynebodd ac i ehangu eu dealltwriaeth o ystyr y term 'goroeswr'.

 

Mae’r gweithgaredd hefyd yn archwilio rhai o gymhlethdodau ymateb Prydain i’r newyddion am erledigaeth a llofruddiaeth Iddewon cyn y rhyfel. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn dadansoddi darnau o ddadl yn Senedd y DU ym 1938, a arweiniodd at y rhaglen Kindertransport. Mae hyn yn rhoi darlun o'r gymdeithas Prydain ar y pryd a'r cyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol yr oedd ffoaduriaid Iddewig yn ei wynebu wrth gyrraedd y DU.

 

Er mwyn gallu deall y gweithgaredd hon orau, argymhellir bod myfyrwyr yn cwblhau Gweithgaredd 5: Yr Effaith Gyfreithiol: Sut Gall Cyfreithiau Erlid neu Ddiogelu yn gyntaf.

 

Gellir cwblhau’r gweithgaredd hon fel dosbarth ar ei phen ei hun neu fel rhan o gwrs astudio dwy ran. Mae ail ran y gweithgaredd wedi ei hamlinellu yn Gweithgaredd 8 - Prydain a'r Golled Etifeddol - Rhan Dau.

bottom of page