top of page

Gweithgaredd 9: Ailfeddwl Cyfrifoldeb

​

Grŵp oedran

Blynyddoedd 7-11 (12-16 oed)

Camau Cynnydd 4 a 5

​

Mae’r gweithgaredd hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ystyried mater cymhleth cyfrifoldeb yng nghyd-destun meddiannaeth y Natsïaid o Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd myfyrwyr yn archwilio tystiolaeth fideo Ellen Kerry Davis, ffoadur Kindertransport, yn ogystal â mapiau ac adnoddau eraill yn ymwneud â digwyddiadau hanesyddol allweddol (yn arbennig, saethu torfol yr Einsatzgruppen) ac yn ystyried sut y gwnaeth gweithredoedd pobl gyffredin lywio digwyddiadau'r Holocost.

 

Trwy archwilio enghreifftiau o gyflawni gweithredol, cydweithio, a chymhlethdod, mae'r gweithgaredd yn herio'r myth mai nifer cymharol fach o Natsïaid eithafol oedd yn gyfrifol am yr Holocost yn unig. Er enghraifft, mae dadansoddiad o fapiau yn galluogi myfyrwyr i ddeall cymhlethdod pobl nad oeddent yn Almaenwyr ledled Ewrop mewn gwledydd oedd wedi ffurfio cynghrair â'r Almaen Natsïaidd neu'n wedi cael eu meddiannu ganddi. Mae’r gweithgaredd hefyd yn annog myfyrwyr i ystyried y cyd-destun hanesyddol a’r penblethau posibl yr oedd unigolion yn eu hwynebu yn ystod yr Holocost, gan ganiatáu dealltwriaeth fwy cymhleth o’r amgylchiadau, a arweiniodd at hil-laddiad Iddewon Ewrop.

 

Yn olaf, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i dreialon Nuremberg yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gan ganiatáu iddynt fyfyrio ar yr amddiffyniad ‘dilyn gorchmynion’ a'r cwmpas ar gyfer cyfrifoldeb unigol wrth amddiffyn hawliau dynol a gwerthoedd democrataidd yn ystod y rhyfel - ac yn y gymdeithas gyfoes.

 

Er mwyn i'r gweithgaredd hon gael ei deall yn iawn, dylid ei haddysgu ar ôl i fyfyrwyr astudio hanes esblygiad yr Holocost trwy Gweithgaredd 5: Yr Effaith Gyfreithiol: Sut Gall Cyfreithiau Erlid neu Ddiogelu a Gweithgaredd 6: Rhagfarn a Phropaganda.

bottom of page