top of page

Gweithgaredd 6: Rhagfarn a Phropaganda

​

Grŵp oedran

Blynyddoedd 7-11 (12-16 oed)

Camau Cynnydd 4 a 5

​

Yn y gweithgaredd hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut y defnyddiodd y Natsïaid sefydliadau ieuenctid a phropaganda i feithrin cefnogaeth miliynau o Almaenwyr i’w nodau gwleidyddol ac i lunio barn ac ymddygiad y cyhoedd cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Nod y gweithgaredd yw darparu sylfaen i archwilio sut y gall rhagfarn a phropaganda gyfrannu at erledigaeth, trais, erchyllter torfol, a hil-laddiad.

 

Mae'r gweithgaredd yn cynnwys tystiolaethau fideo gan Irene Kirstein Watts ac Ellen Kerry Davis, ffoaduriaid Kindertransport. Mae'r dystiolaeth hon yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ar sut y defnyddiodd y Natsïaid haenau lluosog o bropaganda a sut y dylanwadodd ar y rhai a oedd yn cael eu cynnwys yn y gymdeithas Almaenig, a'r rhai oedd wedi'u heithrio o'r gymdeithas honno ar y pryd. Mae’r gweithgaredd yn annog myfyrwyr i ystyried yr effaith ddynol a gafodd y propaganda hwn ar deuluoedd unigol, gan bwysleisio dynoldeb dioddefwyr yr Holocost.

 

Mae’r gweithgaredd hefyd yn archwilio sut mae propaganda cyfoes yn parhau i effeithio ar bobl heddiw. Gofynnir i fyfyrwyr gysylltu’r myfyrdodau hyn â’u rolau a’u cyfrifoldebau eu hunain mewn cymdeithas ddemocrataidd ac i fyfyrio ar rôl y cyfryngau yn eu bywydau eu hunain, gan ganolbwyntio ar sut i ddatblygu lens feirniadol wrth ddehongli negeseuon cyfryngau modern.

 

Gellir rhannu’r gweithgaredd yn hawdd yn ddwy sesiwn lle bo angen –gellir gwneud Tasgau 1-3 yn y sesiwn gyntaf a gellir cwblhau Tasgau 4 a 5 mewn ail sesiwn

bottom of page