Gweithgaredd 1: Kindertransport a’r Plant a Ffodd i Gymru: Rhan 1 - Cefndir
​
Grŵp Oedran:
Blwyddyn 7 (12 oed)
Cam Cynnydd 4
​
Yn y gweithgaredd hwn, bydd myfyrwyr yn ystyried yr ymadrodd ‘ffoaduriaid’, beth maen nhw'n meddwl mae’n ei olygu a pham maen nhw'n meddwl ei fod yn golygu beth mae'n ei wneud. Bydd myfyrwyr wedyn yn dysgu am blant Iddewig a ffodd yn ystod y 1930au. Byddant yn casglu gwybodaeth hanesyddol am y Kindertransport ac yn gwrando ar brofiad bywyd plentyn oedd yn ffoadur.
Bydd myfyrwyr yn trafod ymateb Prydain i’r erledigaeth Natsïaidd ac yn cael cyfle i fyfyrio ar pam mae ffoaduriaid yn ffoi o’u mamwlad, i ddiogelwch.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhan o'r modiwl Kindertransport a’r Plant a Ffodd iGymru ac argymhellir bod rhannau 2 a 3 hefyd yn cael eu cwblhau i ddeall ymhellach effaith emosiynol bod yn ffoadur.