top of page

ADNODDAU HOLOCOST I ATHRAWON A MYFYRWYR YNG NGHYMRU

Croeso i Adnoddau Holocost JHASW/CHIDC ar gyfer athrawon a myfyrwyr yng Nghymru. Mae'r tudalennau canlynol yn darparu gweithgareddau dosbarth newydd ar-lein a nodiadau cyfarwyddyd athrawon ar hanes yr Holocost. Mae'r rhain yn adnoddau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac maen nhw'n hollol rhad ac am ddim i'w lawrlwytho.

​

Cynhyrchwyd yr adnoddau fel rhan o brosiect a ariennir gan Ewrop - y European Network of Testimony based Digital Education neu 'ENTDE' - ac maent yn cynnwys tystiolaethau fideo o USC Shoah Foundation Visual History Archive. 

​

Daw'r tystiolaethau gan ffoaduriaid plant a ddaeth i Gymru yn ystod y 1930au i ddianc rhag erledigaeth y Natsïaid. Maen nhw'n adrodd straeon lleol ac yn dangos Iddewon fel rhan o hanes cyfunol Gymru. Maent hefyd yn rhoi llais i unigolrwydd a dynoliaeth gyffredin bywydau Iddewig a effeithiwyd gan neu a gollwyd yn yr Holocost.

Llun o Ellen Kerry Davis a'i theulu y tu allan i'w cartref yn Kassel, yr Almaen, tua 1937. Yn 1939, dihangodd Ellen erledigaeth Natsïaidd trwy'r Kindertransport. Cafodd ei mabwysiadu gan gwpl oedrannus, di-blant yn Abertawe.​ 

​

Daw’r ddelwedd o gyfweliad gydag Ellen Kerry Davis o archif USC Shoah Foundation – The Institute for Visual History and Education, 1996. Am fwy o wybodaeth: http://sfi.usc.edu/.

Ellen Kerry Davis: "Nid stori yw hon. Roeddwn i yno... Ro'n i'n byw drwy hyn."

Gwybodaeth i Athrawon

​

Bwriad yr adnoddau yw cefnogi nodau cwricwla clir a chadarn ac maent yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru. Yn benodol, maent yn helpu athrawon i fynd i'r afael â'r datganiadau 'beth sy'n bwysig' yn y Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Llesiant, y Dyniaethau ac Ieithoedd, a Meysydd Dysgu a Phrofiad Llythrennedd a Chyfathrebu. Maent hefyd yn canolbwyntio ar themâu trawsbynciol – megis hawliau dynol ac amrywiaeth - i helpu myfyrwyr i ddatblygu ymdeimlad o gynefin a hunaniaeth fel dinasyddion moesegol Cymru a'r byd.

​

Efallai y bydd gan athrawon ddiddordeb hefyd yn yr adnoddau canlynol i baratoi ar gyfer addysgu am yr Holocost:

 

  • Erthygl yn rhoi trosolwg byr o hanes yr Holocost:

https://encyclopedia.ushmm.org/content/en/article/introduction-to-the-holocaust.

  • Geirfa o dermau allweddol:

https://encyclopedia.ushmm.org/content/en/article/glossary.

  • Erthygl yn mynd i'r afael â rhai cwestiynau cyffredin am yr Holocost:

https://www.ushmm.org/teach/fundamentals/holocaust-questions.

  • Adnodd llinell amser o ddigwyddiadau (1933-1945):

https://www.ushmm.org/learn/timeline-of-events/before-1933.

  • Adnodd mapiau'r Holocost:

https://encyclopedia.ushmm.org/content/en/gallery/the-holocaust-maps.

bottom of page